Adnewyddiad Cymorth Cyntaf 2 Ddiwrnod CSDd |DCC 2 Day First Aid Renewal
First Aid at Work
Description
Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai a gyflogir gan Gyngor Sir Ddinbych yn unig.
Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf yn y Gweithle yn darparu sgiliau a gwybodaeth i ddysgwyr er mwyn delio â sefyllfaoedd lle bydd rhywun angen cymorth cyntaf mewn sefyllfa argyfyngus go iawn. Ar ôl y cwrs hwn, byddwch yn datblygu sgiliau a hyder cymorth cyntaf i helpu rhywun sy’n:
- anymatebol ac yn anadlu
- anymatebol a ddim yn anadlu, gan gynnwys sut i ddefnyddio diffibriliwr allanol awtomatig (AED)
- tagu
- gwaedu
- dioddef o sioc
- wedi llosgi
- gydag anaf i’r pen
- gyda hypothermia neu flinder gwres
- gydag anaf i’r asgwrn, cyhyr neu gymal (gan gynnwys anafiadau asgwrn cefn).
Bydd dysgwyr hefyd yn gallu helpu anafusion sy’n cael; ffit, trawiad ar y galon, strôc, pwl o asthma, adwaith alergaidd difrifol, argyfwng diabetig.
Darperir Cymorth Cyntaf yn y Gweithle mewn dosbarth gyda dysgu ymarferol. Mae’r cwrs llawn wedi’i ledaenu dros 3 diwrnod, ac mae’r cwrs gloywi / adnewyddu yn cael ei gynnal dros 2 ddiwrnod.
(Ad-daliad y cyrsiau yn unol â’r telerau ac amodau: £175)
This course is for those employed by Denbighshire County Council only.
The First Aid at Work course provides learners with the skills and knowledge to deal with situations where someone needs first aid in a real life emergency situation. After this course, you'll develop the first aid skills and confidence to help someone who:
- is unresponsive and breathing
- is unresponsive and not breathing, including how to use an automated external defibrillator (AED)
- is choking
- is bleeding
- is suffering from shock
- has burns
- has a head injury
- has hypothermia or heat exhaustion
- has an injury to a bone, muscle or joint (including spinal injuries).
Learners will also be able to help a casualty who is having a; seizure, heart attack, stroke, asthma attack, severe allergic reaction, diabetic emergency.
First Aid at Work is delivered in a classroom setting with hands on learning. The full course is spread over 3 days, whilst the refresher / renewal course is conducted over 2.
(Repayment of courses as per T&C's: £175)